Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli Cŵn
Cymru.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, ac sy’n byw yng Nghymru,
yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli
Cŵn
(Cymru) i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud
â chŵn
peryglus a bygythiol, ac i beidio â dibynnu ar gynigion
tameidiog Llywodraeth y DU sydd wedi'u gosod allan yn ei Bil
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drafft. Cafwyd esboniad cychwynnol o'r
Bil hwn yn y Papur Gwyn “Putting Victims First, More
Effective Responses to Anti-social Behaviour”.
Cytunwn â Llywodraeth Cymru sy’n dweud yn ei datganiad
fod Hysbysiad Rheoli Cŵn
yn amlwg yn well na’r holl ddeddfwriaeth bresennol gan nad
oes angen mynd ag achosion gerbron y llys ac, felly, mae llai o
bwysau ar y pwrs cyhoeddus. Credwn hefyd fod cynigion Llywodraeth y
DU, sy'n cynnwys pedwar dull gorfodi gwahanol, sef-
•
gwaharddebau i atal niwsans
annoyance;
•
gorchmynion ymddygiad troseddol
• pwerau
gwasgaru
•
hysbysiadau amddiffyn cymunedol
yn llawer rhy gymhleth, trwsgl a biwrocrataidd ac y byddant yn
arwain at oedi. Rhaid gwneud cais i’r llys cyn rhoi dau
ohonynt ar waith - gwaharddebau a gorchmynion ymddygiad
troseddol.
Credwn fod yr un Hysbysiad Rheoli Cŵn
cynhwysfawr a gynigir i Gymru yn ddull llawer iawn gwell ac rydym
yn annog Llywodraeth Cymru i lunio deddf sy’n seiliedig ar y
cysyniad hwn yn unol â’r bwriad gwreiddiol. Rydym
yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y canlynol: (i) casgliadau hynod
feirniadol Pwyllgor Dethol Tŷ'r
Cyffredin ynghylch adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a
Materion Gwledig, sef 'Rheoli Cŵn
a Lles' sy'n dweud bod cynigion Llywodraeth y DU yn 'rhy syml' ac
yn 'resynus o annigonol'. Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod
DEFRA a'r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Hysbysiadau Rheoli
Cŵn
a (ii) y ffaith bod y cyrff sydd wedi uno yn yr ymgyrch, sef
undebau, elusennau anifeiliaid, yr heddlu a milfeddygon hefyd
yn anfodlon ar y cynigion.
Prif
ddeisebydd:
Cyng. Dilwar Ali
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 30 Ebrill 2013
Nifer y llofnodion : 1119